Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 28 Ionawr 2014 a dydd Mercher 29 Ionawr 2014
Dydd Mawrth 4 Chwefror 2014 a dydd Mercher 5 Chwefror 2014
Dydd Mawrth 11 Chwefror 2014 a dydd Mercher 12 Chwefror 2014
***********************************************************************
Dydd Mawrth 28 Ionawr 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Cynnydd ar Wella Caffael Cyhoeddus (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Adolygiad Annibynnol o Gryfder Ffermio (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi Trafnidiaeth (30 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.36 i newid y drefn y caiff gwelliannau Cyfnod 3 i’r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) eu trafod (5 munud)
· Dadl: Adroddiad y Comisiwn Williams ar Gyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus a Llywodraethu (60 munud)
Dydd Mercher 29 Ionawr 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i'r polisi ynni a chynllunio yng Nghymru - adroddiad dilynol (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Eluned Parrott (Canol De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 4 Chwefror 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (300 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.
Dydd Mercher 5 Chwefror 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Academi Heddwch Cymru / Wales Peace Institute (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Darren Millar (Gorllewin Clwyd) (30 munud)
Dydd Mawrth 11 Chwefror 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru (30 munud)
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi: Cyflawni'r Rhaglen Lywodraethu: Diweddariad ar ehangu Dechrau'n Deg (30 munud)
· Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gamddefnyddio Sylweddau (60 munud)
· Dadl: Cynnig i gytuno ar Femorandwm Llywodraeth Cymru ar y Broses Cydsyniad Deddfwriaethol (30 munud)
· Dadl: Bil Drafft Cymru (60 munud)
Dydd Mercher 12 Chwefror 2014
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Ardaloedd Menter (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Dadl Fer - Peter Black (Gorllewin De Cymru) (30 munud)